Cefnogaeth i deuluoedd
Mae pob teulu yn unigryw. Rydym am allu rhoi'r cymorth sydd ei angen arnoch mewn ffordd sy'n gweithio i bawb.
Yn RSBC, rydym am i bob plentyn a pherson ifanc dall yng Nghymru a'i deulu feddu ar y sgiliau a'r hyder i fyw eu bywyd heb gyfyngiadau.
Rydym am sicrhau eich bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch i sicrhau bod hynny’n digwydd. Lle bynnag yr ydych yng Nghymru a Lloegr, mae gennym amrywiaeth o gymorth a gwasanaethau i ddiwallu eich anghenion. Felly, os ydych chi’n berson ifanc, yn rhiant neu’n ofalwr neu’n aelod arall o’r teulu, edrychwch ar y gweithgareddau, y digwyddiadau a’r gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig i’ch cefnogi chi a’ch teulu.
Yng Nghymru, mae RSBC yn cynnig:
Cymorth i'r teulu cyfan
Dysgwch ragormae gennym dri Meddyg Teulu ledled Cymru a all roi'r help cywir i'ch teulu cyfan.
Gweithgareddau ar-lein ac yn y cnawd i blant a phobl ifanc.
Dysgwch ragorMae rhai yn cael eu datblygu'n benodol ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru.
Gwybodaeth a chyngor
Dysgwch ragorBydd ein Cynghorydd Cymorth yn gallu siarad â chi dros y ffôn a rhoi gwybodaeth ymarferol i chi, fel cyngor ar fudd-daliadau a grantiau.
Ein prosiect yng Nghymru
Rydyn ni wedi bod yn ffodus i sicrhau grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, sy’n sicrhau bod RSBC a’i bartneriaid, CWVYS a Chyngor y Deillion, yn gallu cynnig amrywiaeth o gymorth a gweithgareddau ledled Cymru i blant a phobl ifanc sydd ag amhariad ar eu golwg, ynghyd â’u teuluoedd.
Bydd y prosiect yn rhedeg tan fis Awst 2026, a’r enw Saesneg arno yw Eye Connect Cymru. Bydd y prosiect yn sicrhau:
- Bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i deimlo’n fwy hyderus a ffynnu yn emosiynol.
- Bod sefydliadau ieuenctid ledled Cymru yn barod i groesawu a chynnwys plant a phobl ifanc sydd ag amhariad ar eu golwg yn eu lleoliadau.
- Bod plant a phobl ifanc yn gallu gwneud cysylltiadau parhaol â’u gilydd a meithrin ymdeimlad o gymuned.
- Bod gan blant a phobl ifanc lais cryfach yn eu cymuned ac yn gallu dylanwadu ar newid.

Sut gallwch chi gymryd rhan?
Os ydych chi’n sefydliad ieuenctid, neu’n rhiant neu berson ifanc a hoffai i sefydliad ieuenctid lleol ddiwallu eich anghenion hygyrchedd, yna cliciwch ar y ddolen am fwy o wybodaeth am yr hyfforddiant rhad ac am ddim sydd ar gael i’r sefydliadau hynny.
Darparwyr gweithgareddau
Byddwn yn gweithio gyda darparwyr gweithgareddau ledled Cymru i lunio rhai gweithgareddau cyffrous ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru. Archebwch heddiw.
Diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am sicrhau bod plant sydd ag amhariad ar eu golwg, ynghyd â’u teuluoedd, yn cael y cymorth cywir yng Nghymru!

Cysylltwch â ni
Os oes gennych ddiddordeb yng ngwasanaethau cymorth i deuluoedd RSBC neu os oes gennych gwestiynau, llenwch y ffurflen isod neu cysylltwch â ni trwy e-bostio connections@rsbc.org.uk.