Notice: Our phone lines will close at 12:30pm on December 24th and re-open at 9am on 2nd January.

Yn RSBC, rydym am i bob plentyn a pherson ifanc dall yng Nghymru a'i deulu feddu ar y sgiliau a'r hyder i fyw eu bywyd heb gyfyngiadau.

Rydym am sicrhau eich bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch i sicrhau bod hynny’n digwydd. Lle bynnag yr ydych yng Nghymru a Lloegr, mae gennym amrywiaeth o gymorth a gwasanaethau i ddiwallu eich anghenion. Felly, os ydych chi’n berson ifanc, yn rhiant neu’n ofalwr neu’n aelod arall o’r teulu, edrychwch ar y gweithgareddau, y digwyddiadau a’r gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig i’ch cefnogi chi a’ch teulu.

Yng Nghymru, mae RSBC yn cynnig:

Cymorth i'r teulu cyfan

Dysgwch ragor

mae gennym dri Meddyg Teulu ledled Cymru a all roi'r help cywir i'ch teulu cyfan.

Gweithgareddau ar-lein ac yn y cnawd i blant a phobl ifanc.

Dysgwch ragor

Mae rhai yn cael eu datblygu'n benodol ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru.

Gwybodaeth a chyngor

Dysgwch ragor

Bydd ein Cynghorydd Cymorth yn gallu siarad â chi dros y ffôn a rhoi gwybodaeth ymarferol i chi, fel cyngor ar fudd-daliadau a grantiau.

Ein prosiect yng Nghymru

Rydyn ni wedi bod yn ffodus i sicrhau grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, sy’n sicrhau bod RSBC a’i bartneriaid, CWVYS a Chyngor y Deillion, yn gallu cynnig amrywiaeth o gymorth a gweithgareddau ledled Cymru i blant a phobl ifanc sydd ag amhariad ar eu golwg, ynghyd â’u teuluoedd.

 

Bydd y prosiect yn rhedeg tan fis Awst 2026, a’r enw Saesneg arno yw Eye Connect Cymru. Bydd y prosiect yn sicrhau:

 

  • Bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i deimlo’n fwy hyderus a ffynnu yn emosiynol.

Dysgwch ragor

 

  • Bod sefydliadau ieuenctid ledled Cymru yn barod i groesawu a chynnwys plant a phobl ifanc sydd ag amhariad ar eu golwg yn eu lleoliadau.

Dysgwch ragor

 

  • Bod plant a phobl ifanc yn gallu gwneud cysylltiadau parhaol â’u gilydd a meithrin ymdeimlad o gymuned.

Dysgwch ragor

 

  • Bod gan blant a phobl ifanc lais cryfach yn eu cymuned ac yn gallu dylanwadu ar newid.

Dysgwch ragor

 

An adorable little girl being cuddled by her mum. The girl is light-skinned with long dark-blonde hair, worn in two pigtails. She has pink glasses and beige coat. Her mum is a light-sknned woman with light-brunette hair. She is wearing a black puffer-best and a white long-sleeved t-shirt. Both are smiling at the camera. Behind them is a blurred background with autumn trees.

Sut gallwch chi gymryd rhan?

 

Os ydych chi’n sefydliad ieuenctid, neu’n rhiant neu berson ifanc a hoffai i sefydliad ieuenctid lleol ddiwallu eich anghenion hygyrchedd, yna cliciwch ar y ddolen am fwy o wybodaeth am yr hyfforddiant rhad ac am ddim sydd ar gael i’r sefydliadau hynny.

 

  • Ein prosiect yng Nghymru

 

Rydyn ni wedi bod yn ffodus i sicrhau grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, sy’n sicrhau bod RSBC a’i bartneriaid, CWVYS a Chyngor y Deillion, yn gallu cynnig amrywiaeth o gymorth a gweithgareddau ledled Cymru i blant a phobl ifanc sydd ag amhariad ar eu golwg, ynghyd â’u teuluoedd.

 

 

  • Darparwyr gweithgareddau

 

Byddwn yn gweithio gyda darparwyr gweithgareddau ledled Cymru i lunio rhai gweithgareddau cyffrous ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru. Archebwch heddiw.

 

Diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am sicrhau bod plant sydd ag amhariad ar eu golwg, ynghyd â’u teuluoedd, yn cael y cymorth cywir yng Nghymru!

National Welsh and English National Lottery logo with the crossed fingers and the text

Cysylltwch â ni

Os oes gennych ddiddordeb yng ngwasanaethau cymorth i deuluoedd RSBC neu os oes gennych gwestiynau, llenwch y ffurflen isod neu cysylltwch â ni trwy e-bostio connections@rsbc.org.uk.